Lleoliad:
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 26 Ionawr 2017
Amser: 09.30 -
14.54
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Rebecca Hardwicke, Cymorth Busnes i'r Aelodau Martin Jennings, Y Gwasanaeth Ymchwil Jan Koziel, Pennaeth Caffael Carys Rees, Cymorth Busnes i'r Aelodau |
Staff y Pwyllgor: |
Daniel Collier, Clerc dros dro Sian Giddins, Dirprwy Glerc |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Bwrdd i’r cyfarfod.
1.2 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 ac 17 Tachwedd 2016 yn amodol ar fân newidiadau.
1.3 Nododd y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017.
1.4 Cytunodd y Bwrdd ar ddyddiadau ei gyfarfodydd hyd at fis Mawrth 2018.
1.5 Cytunodd y Bwrdd i drefnu cyfarfodydd gyda'r Grŵp Cynrychiolwyr Aelodau'r Cynulliad a'r Grŵp Cynrychiolwyr Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad.
1.6 Dywedodd y Fonesig Jane Roberts fod ganddi fuddiant yn eitem 3 gan ei bod yn aelod o gorff llywodraethu Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru.
2.1 Trafododd y Bwrdd bapur a oedd yn amlinellu paramedrau'r adolygiad i ganfod rhwystrau a chymhelliant unigolion wrth sefyll i gael eu hethol i fod yn Aelod Cynulliad, yn enwedig y broses o dendro ymchwil i'r maes.
2.2 Cytunodd y Bwrdd i ofyn am grynodeb o'r gwaith ymchwil sydd eisoes wedi'i wneud i nodi rhwystrau a chymhellion i sefyll i fod yn Aelod Cynulliad.
2.3 Cytunodd y Bwrdd i ddechrau proses gaffael i nodi'r cymhellion a'r rhwystrau ar gyfer unrhyw un sydd am sefyll i fod yn Aelod Cynulliad. Roeddent hefyd yn cytuno ar y pwyntiau a ganlyn:
· dylai'r broses ganolbwyntio ar y pecyn tâl, sydd o fewn cylch gwaith y Bwrdd;
· dylid anfon tendrau'n uniongyrchol at nifer o ddarpar ymgeiswyr a'u cyhoeddi ar wefannau'r Cynulliad;
· y broses ymgeisio a chyfweld; a
· byddai angen i'r ymgeisydd llwyddiannus roi methodoleg fanwl i'r Bwrdd o'i adolygiad arfaethedig a rhoi trosolwg o'r gwaith y mae wedi'i wneud ar adeg briodol o'r adolygiad.
Camau i'w cymryd:
· Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi crynodeb o waith ymchwil blaenorol a wnaed yn y maes.
· Yr Ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r dogfennau tendro fel y cytunwyd gan y Bwrdd a chyhoeddi yn unol â hynny.
· Cytunodd y Bwrdd y byddai Jane yn arwain ar y mater hwn. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai'n ystyried ac yn cytuno ar y canlynol y tu allan i gyfarfodydd y Bwrdd: y ddogfen dendro derfynol, y rhestr o wahoddedigion i anfon y tendr atynt, y rhestr fer o bobl i'w gwahodd i gyfweliad, a'r ymgeisydd llwyddiannus.
3.1 Cytunodd y Bwrdd y byddai paramedrau'r adolygiad o egwyddorion sylfaenol ac effeithiolrwydd y Penderfyniad yn canolbwyntio ar y pecyn ariannol sydd ar gael i'r Aelodau ar hyn o bryd.
3.2 Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi holiaduron wedi'u teilwra i Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth i ofyn eu barn am egwyddorion sylfaenol ac effeithiolrwydd y Penderfyniad. Bydd pob holiadur yn canolbwyntio ar y rhannau hynny o'r Penderfyniad sy'n gymwys i'w rôl, gan gynnwys unrhyw ddarpariaethau newydd a gyflwynwyd ar gyfer y Pumed Cynulliad.
3.3 Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei hysbysu drwy ei gyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol rheolaidd â'r ddau grŵp o gynrychiolwyr.
3.4 Cytunodd y Bwrdd ar yr amserlen ar gyfer y darn hwn o waith.
Camau i'w cymryd:
· Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi holiadur terfynol i'r Bwrdd ei ystyried y tu allan i'w gyfarfodydd ffurfiol.
· Ar ôl cael sêl bendith y Bwrdd, dylai'r Ysgrifenyddiaeth ddosbarthu'r holiaduron.
· Yr Ysgrifenyddiaeth i roi crynodeb o'r ymatebion yn y cyfarfod nesaf.
Cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2017-18
4.1 Cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 2.1% yng nghyflogau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2017-18 yn unol â chanolrif enillion yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) 2016 yng Nghymru a gafodd eu cyhoeddi ym mis Hydref 2016.
4.2 Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio ffigur ASHE eleni er mwyn bod yn gyson ag adolygiad cyflogau y llynedd. Fodd bynnag, cytunodd y Bwrdd i barhau i fonitro pa mor briodol yw'r dull hwn o fynegeio.
4.3 Cytunodd y Bwrdd mai 10 Mawrth fyddai dyddiad cau'r ymgynghoriad ar gyflogau'r staff cymorth.
Camau i'w cymryd:
· Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi'r ymgynghoriad ar gyflogau'r staff cymorth.
· Yr Ysgrifenyddiaeth i ddosbarthu'r gwaith a wnaeth y Bwrdd blaenorol ar y pwnc hwn.
· Yr Ysgrifenyddiaeth i lunio crynodeb o'r ymatebion ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Costau swyddfa ar gyfer 2017-18
4.4 Trafododd y Bwrdd y gwahanol ffactorau sy'n effeithio ar gostau swyddfa'r Aelodau, gan gynnwys lleoliad, offer arbenigol ac ati.
4.5 Nododd y Bwrdd fod y cynnydd diwethaf yn y costau swyddfa yn seiliedig ar gyfraddau'r mynegai prisiau defnyddwyr (CPI). Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio'r un egwyddor eto eleni. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei ailystyried pan fydd y Bwrdd yn cynnal ei adolygiad o effeithiolrwydd y Penderfyniad.
4.6 Cytunodd y Bwrdd i gynnig cynnydd o 1.2% yn y lwfans costau swyddfa yn unol ag amcangyfrif CPI hyd at fis Tachwedd 2016.
4.3 Cytunodd y Bwrdd mai 10 Mawrth fyddai dyddiad cau'r ymgynghoriad ar gostau swyddfa.
Camau i'w cymryd:
· Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi'r ymgynghoriad ar gostau swyddfa.
· Yr Ysgrifenyddiaeth i lunio crynodeb o'r ymatebion ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Y Gwariant ar Lety Preswyl
4.8 Trafododd y Bwrdd y ffactorau sy'n effeithio ar y Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer Aelodau sy'n byw yn yr ardal allanol. Cytunodd y Bwrdd fod angen rhagor o wybodaeth cyn ymgynghori ar gyfradd y gwariant ar lety preswyl ar gyfer Aelodau sy'n byw yn yr ardal allanol a bydd yn dychwelyd at y mater maes o law.
4.9 Trafododd y Bwrdd ddau lwfans atodol i Aelodau sy'n byw yn yr ardal allanol ar gyfer 2017-18. Cytunodd y Bwrdd i gynnal y symiau blynyddol presennol a ganlyn:
· £882 ar gyfer atgyweiriadau hanfodol yn achos yr Aelodau hynny sydd â hawl i log ar forgais; a
· £1,440 ar gyfer Aelodau gyda dibynyddion sy'n byw fel mater o drefn gyda hwy yn eu heiddo yng Nghaerdydd.
4.10 Cytunodd y Bwrdd i ailystyried y materion hyn pan fydd yn cynnal ei adolygiad i effeithiolrwydd y Penderfyniad.
Camau i'w cymryd:
· Yr Ysgrifenyddiaeth i gasglu rhagor o wybodaeth am y gost o rentu ym Mae Caerdydd ac i ddosbarthu'r casgliadau i'r Bwrdd er mwyn cyhoeddi unrhyw ymgynghoriad cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd. Cytunodd y Bwrdd pe byddai'n dymuno newid y lwfansau preswyl ar gyfer 2017-18 y cytunir ar hyn yn electronig y tu allan i gyfarfodydd y Bwrdd.
5.1 Nododd y Bwrdd Adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru/Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol:'Ail-lunio'r Senedd – sut i ethol Cynulliad Cenedlaethol mwy effeithiol'.